
Amdana' i
Haia, Elain dwi!
Dwi'n berson creadigol wnaeth astudio celf hyd at Level-A yn yr ysgol. Dwi'n rhugl yng Nghymraeg a Saesneg felly dwi'n gallu cynnig unrhyw un o'n wasanaethau trwy unrhyw iaith.
Dechreuodd fy nghariad at baentio wynebau ar ôl i mi ddechrau paentio ym mhartïon penblwydd phob plentyn yn fy mywyd. Ar ôl cael pobl yn gofyn i mi baentio mewn digwyddiadau, penderfynais na fyswn i'n teimlo'n gyfforddus i baentio pobl heb baent proffesiynol, ymwybyddiaeth hylendid a rhywfaint o hyfforddiant - felly dyna wnes i!
Ychydig o flynyddoedd yn ôl sefydlais y busnes hwn i rannu'r hwyl o gwmpas! Dwi wrth fy modd yn dysgu technegau a dyluniadau newydd, a dwi fethu disgwyl i weld be' wnâi gyflawni nesaf.
AGORWCH EICH DYCHYMYG
Yn ogystal â phaentio wynebau, dwi'n cynnig gliter gŵyl, tatŵau gliter, a phaentio ewinedd, gan sicrhau profiad bywiog a chofiadwy i gwsmeriaid o bob oed.
Trowch eich digwyddiad yn ŵyl o greadigrwydd a lliw gyda'n gwasanaethau eithriadol.
Nodwch: Gall cyswllt a gwasanaethau gael eu chynnal trwy'r Gymraeg neu Saesneg.
Mae Sêr Sgleiniog Sparkly Stars yn arbenigo mewn gwasanaethau paentio wyneb hudolus ledled Gogledd Cymru. Dwi wrth fy modd yn dod â dychymyg i fywyd, gan greu dyluniadau syfrdanol ar gyfer pob achlysur.
Trawsnewidiwch Eich Digwyddiad gyda Sêr Sgleiniog

"Elain came to my son’s 5th birthday party which was dinosaur theme! She asked for his favourite dinosaur so she could practice ready for him! She even wore a dinosaur shirt which he LOVED! Diolch" Amss Parkes - Nov 2024
"Thank you so much Elain for being fantastic with all the girls at the party, the stitch face paint was a huge hit!" Haf Roberts - Nov 2024
"Elain was a big hit at my daughters Princess birthday party today, all of the children (and adults) were blown away by how talented she is!
I will definitely be using Elain again for future parties and will be recommending to all of my friends and family xx" Gabby Brown - Nov 2024
cysylltwch â ni
Dilynwch ni ar y cyfryngau
Instagram: @ser.sgleinog
Facebook: Ser Sgleiniog - Sparkly Stars Face Painting
E-bost: ser.sgleiniog@gmail.com
Cyfeiriad: Bae Colwyn, Conwy, Y Deyrnas Unedig




























